Mark 5:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac e dorei ’r lleffetheiriae yn chvvilfrivv, ac ny allei nep y warhay ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y gallai neb ei rwymo ef, gan y bu iddo yn fynych ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, ac y rhwygwyd y cadwynau ganddo, a’r llyffetheiriau a ddrylliwyd, ac nid oedd neb yn gallu ei ddofi ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddarfod ei rwymo lawer gwaith â llyffetheiriau ac â chadwynau, a dryllio ohono’r cadwynau, a malu’r llyffetheiriau; ac ni fedrai neb ei ddofi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a'i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri'r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych llyffetheiriau ac chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o herwydd iddo yn fynych gael ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau; ac ni allai neb ei ddofi ef.