Mark 5:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a y gwatworent ef: ac ef y rhoes wy oll y maes, ac a gymerth dad, a’ mam y dyn‐bach, a’r ei oedd y gyd ac ef, ac aeth y mywn lle dd oedd yr enaeth yn gorwedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwarddasant am Ei ben Ef. Ond Efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth gydag Ef dad y plentyn, ac ei mam, a’r rhai oedd gydag Ef, ac aeth i mewn lle’r oedd y plentyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwatwarant ef. Y mae yntau’n bwrw pawb allan, ac yn cymryd tad y plentyn, a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac yn cyrchu i’r fan yr oedd y plentyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu'n eu hanfon nhw i gyd allan o'r tŷ. Yna aeth a'r tad a'r fam a'r tri disgybl i mewn i'r ystafell lle roedd y ferch fach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreusant chwerthin am ei ben. Gyrrodd yntau bawb allan, a chymryd tad y plentyn a'i mam a'r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle'r oedd y plentyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i gwatwarasant ef. Eithr efe ei hun, wedi bwrw pawb allan, a gymmer dâd y plentyn, a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac y mae yn myned i mewn lle yr oedd y plentyn.