Mark 5:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ebrwydd y cyfodes yr enaeth, ac y rhodiawdd: canys dau-ddec blwydd oed ytoedd hi. A’ braw anveidrawl aeth ynðynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn, safodd yr eneth i fynu, a rhodiodd; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. A synnasant yn uniawn â syndod mawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y fan cododd yr eneth, a dechreuodd gerdded; canys yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwynt yn ebrwydd â syndod mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ferch, oedd yn ddeuddeg oed, yn codi ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas. Roedd y rhieni a'r disgyblion wedi eu syfrdanu'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwy yn y fan syndod mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd o amgylch; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. Ac yn ebrwydd hwy a synasant gyda syndod mawr.