Mark 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a lefawdd a llef vchel ac a ddyvot, Beth ’sy i mi a vvnelvvyf a thi Iesu vap y Duw goruchaf? ith tyn ged af trvvy Dduw na phoenych vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhedodd ac ymochreiniodd Iddo, a chan waeddi â llef fawr, dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf Di, trwy Dduw, na phoenech mo honof fi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chan weiddi â llef uchel, fe ddywed, “Beth sy rhyngof fi a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf di trwy Dduw, na phoenydia fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwaeddodd llais uchel, "Beth sydd a fynni di mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid 'm poenydio."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan waeddi a llef uchel, efe a ddywed, Beth sydd i ti a wnelyt a mi, O Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenyt fi.