Mark 6:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pha’r ei bynac ny ’ch d erbyniant, ac ny’ ch clywant, pan eloch i ffordd o dd yno, escutwch y llwch ysy dan eich traed yn testiolaeth yddwynt. Yn wir y dywedaf y chwi, y bydd esmwythach i Sodoma ai Gomorrha yn‐ d ydd brawd, nac i’r dinas hono.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A pha le bynnag ni’ch derbyn, ac ni chlywant chwi, wrth fyned allan oddi yno, ysgydwch ymaith y llwch y sydd tan eich traed, yn dystiolaeth iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a pha fan bynnag ni’ch derbynio, ac ni wrandawont arnoch, wrth ymadael oddiyno ysgydwch ymaith y llwch a fo dan eich traed er tystiolaeth iddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A pha le bynag ni'ch derbynio, a hwy ni'ch gwrandawant, pan yr eloch allan oddiyno, ysgydwch ymaith y llwch a fyddo dan eich traed, er tystiolaeth iddynt.