Mark 6:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y clypu ’r Brenhin Herod am danavv (can ys eglaer oedd y enw ef) ac y dyvot, Ioan Vatyddiwr a g yf odes o’ veirw, ac am hyny y gweithredir nerthoedd trwy dd aw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywodd y brenhin Herod, canys amlwg oedd Ei enw, a dywedodd, Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio, a gyfododd o feirw, ac o achos hyny y gweithia’r gwyrthiau ynddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywodd y brenin Herod, canys deuthai ei enw ef yn hysbys; a dywedent, “Ioan Fedyddiwr sy wedi cyfodi o feirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, "Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar brenin Herod a glybu; canys cyhoedd ydoedd ei enw ef; ac efe a ddywedodd, Ioan y Bedyddiwr sydd wedi cyfodi o feirw, ac o herwydd hyny y mae y nerthoedd yn gweithio ynddo ef.