Mark 6:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glypu Herod, y dyvot, Hwn yw Ioan yr hwn a dorreis i ei ben: ef e a godes o veirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o Herod, dywedodd, Yr hwn y torrais i ei ben, Ioan, efe a gyfododd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan glywodd Herod fe ddywedai, “Y gŵr y torrais i ei ben, Ioan, hwnnw a gyfododd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Herod beth oedd Iesu'n ei wneud, dwedodd ar unwaith “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glywodd Herod, dywedodd, "Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Yr hwn a dorais ei ben ef, Ioan, hwn a gyfododd.