Mark 6:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Herod y h un a dd anvonesei genadon, ac a dyaliesei Ioan, ac ei rhwymesei ef yn-carchar o bleit Herodias, yr hon oedd ’wraic Philip y vrawd ef, can iddo y phriody hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys efe, Herod, a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a rwymodd ef yngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, canys honno a briodasai efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Herod ei hun a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a’i rwymo yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd, am iddo’i phriodi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i'w frawd Philip, roedd Herod wedi ei phriodi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Herod ei hun a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd ef yng ngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd; canys efe a'i priododd hi.