Mark 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Ioan a ddywedesei wrth Herod, Nyd cyfreithlon y ti gael gwraic dy vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn yw i ti fod a chenyt wraig dy frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywedai Ioan wrth Herod, “Ni ddylai fod gennyt wraig dy frawd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, "Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.