Mark 6:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dyvot y Sabbath, y dechreawdd ef ei dyscy yn y Synagog, a’ brawychy a wnaeth l’awer a’r y clywsent ef, gan ddywedyt, O b’le y cafas hwn y pethae hynn? a’ pha ra ddoethinep yw hyn a roed iddaw, can ys gwnair cyfryw nerthoedd trwy y ddwylo ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod y Sabbath, dechreuodd ddysgu yn y sunagog; a chan lawer, wrth Ei glywed, y bu aruthr, gan ddywedyd, O ba le y mae gan Hwn y pethau hyn? a, Pa beth yw’r doethineb a roddwyd Iddo, ac y gwyrthiau o’r fath y sydd trwy ei ddwylaw Ef yn digwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi dyfod dydd Sabath dechreuodd ddysgu yn y synagog; a’r lliaws wrth wrando a synnai, gan ddywedyd, “O ba le y daeth i hwn y pethau hyn? A pha beth yw’r ddoethineb a roed i hwn, a’r fath rymusterau a wneir trwy ei ddwylo?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a'i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, "O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd ddysgu yn y Synagog, a llawer wrth wrando arno a darawyd a syndod, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha beth yw y ddoethineb a roddir i hwn? ac y mae y fath weithredoedd nerthol yn cael eu gwneyd trwy ei ddwylaw ef.