Mark 6:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Herod a ofnei Ioan, o bleit iddo wybot y vot ef yn ’wr cyfiawn, ac yn sanct, ac y parchei ef, ac wrth y glywet ef, y gwnai ef lawer o pethe, ac ei gwrandawei yn ewyllysgar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni allai; canys Herod a ofnai Ioan, gan wybod ei fod yn ŵr cyfiawn a sanctaidd, ac a’i cadwai ef; ac wedi ei glywed ef, llawer yr ammeuai, a da oedd ganddo ei glywed ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Herod a ofnai Ioan, yn gwybod ei fod yn ŵr cyfiawn a santaidd, ac fe’i noddai; ac wrth ei glywed petrusai lawer, eto hoffai wrando arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gu373?r cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar l gwrando, mewn penbleth fawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac a'i dyogelodd. A phan glywodd efe ef, efe a gythryblwyd yn ddirfawr, ac a'i gwrandawodd yn llawen.