Mark 6:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ gwedy y verch yr vn ryvv Herodias ddyvot y mewn a dawnsio, a’ bod d loni Herod a’r ei oeð yn cyddeisteð wrth y vort, y dyvot y Brenhin wrth y vor wyn nic, Arch y mi beth bynac a vynnych, a’ mi ei rhoddaf yty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’i filwriaid, ac i oreugwyr Galilea, ac wedi dyfod i mewn o’i merch hi, Herodias, ac wedi dawnsio o honi, boddhaodd Herod a’r rhai yn lled-orwedd gydag ef wrth y ford; a’r brenhin a ddywedodd wrth y llangces,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi i ferch Herodias ei hun ddyfod i mewn a dawnsio, hi foddhaodd Herod a’i gyd-gyfeddachwyr. A’r brenin a ddywedodd wrth yr eneth, “Gofyn gennyf a fynnych, a rhoddaf iti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, "Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth merch Herodias ei hun i mewn, a dawnsio, hi a foddhâodd Herod a'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth y bwrdd; a'r brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynit, a mi a'i rhoddaf i ti.