Mark 6:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yhi aeth allan, ac a ddyvot wrth ei mam, Peth a archaf? Hithe a ddyvot, Pen Ioan Vatiddiwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thyngodd iddi, Pa beth bynnag a ofyni, rhoddaf ef i ti, hyd hanner fy nheyrnas. Ac wedi myned allan o honi, dywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth hithau allan, a dywedodd wrth ei mam, “Beth a ofynnaf?” A dywedodd honno, “Pen Ioan Fedyddiwr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi. “Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam wrthi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, "Am beth y caf ofyn?" Dywedodd hithau, "Pen Ioan Fedyddiwr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan y Bedyddiwr.