Mark 6:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth hi yn y lle mewn awydd at y Brenhin, ac a archawdd, gan ðywedyt, Wyllyswn roddy o hanot i mi sef yr awrhon mewn descyl ben Ioan Vatyddiwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hi a ddywedodd, Pen Ioan y sy’n bedyddio. Ac wedi myned i mewn yn uniawn, ar frys, at y brenhin, gofynodd, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth hithau i mewn yn y fan ar ffrwst at y brenin, a gofynnodd gan ddywedyd, “Mynnaf iti’n ddioed roi i mi ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, "Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd hi a ddaeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynaf i ti roddi i mi yn ddioed, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.