Mark 6:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno myned o’r Brenhin yn athrist: eto er mwyn y llw, ac er mvvyn yr ei oedd yn cyd eisteð ar y vort, ny mynnoð ef y gommeð hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ewyllysiaf am i ti, allan o law, roddi i mi, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. Ac wedi myned yn dra athrist, y brenhin, o achos ei lwon a’r rhai yn lled-orwedd wrth y ford, nid ewyllysiai ei diystyru hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dwys-dristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’r cyfeddachwyr nid ewyllysiodd dorri ei air iddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl — roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio thorri ei air iddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r brenin a fu drist iawn; eto, er mwyn y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, ni fynai ei diystyru hi.