Mark 6:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man yd anvones y Brenhin grogwr, ac ’orchmynawdd ðwyn y ben ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn, gan ddanfon o’r brenhin lys-filwr, gorchymynodd ddwyn ei ben ef ar ddysgl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna anfonodd y brenin un o’i osgordd, a gorchmynnodd ddwyn ei ben ef. Ac fe aeth, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd y brenin a ddanfonodd lys‐filwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef: ac yntau a aeth, ac a dorodd ei ben ef yn y carchar,