Mark 6:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Apostoliō ymgynullesont ynghyd at yr Iesu, ac a venegesont iddo oll, ac ar a wnaethent, ac a ddyscesent‐i‐ereill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ymgasglodd yr apostolion at yr Iesu, a mynegasant Iddo yr holl bethau, cynnifer ag a wnaethant ac a ddysgasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymgasgla’r apostolion at yr Iesu, a mynegasant iddo’r holl bethau a wnaethent ac a ddysgasent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi ei wneud a'i ddysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Apostolion a ymgasglant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau a wnaethant, a'r rhai a ddysgasant.