Mark 6:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Dewchwi ych unain o’r neilltu ir diffeithwch, a’ gorphwyswch y chydig in: can ys yð oedd l’awer yn dyvot ac ac yn myned: val na chaent encyd i vwyta.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o’r neilldu i le anial, a gorphwyswch ychydig, canys y rhai yn dyfod ac yn myned oeddynt lawer, ac hyd yn oed i fwytta nid oedd ganddynt amser cyfaddas:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd ef wrthynt, “Dowch eich hunain o’r neilltu i le anghyfannedd, a gorffwyswch dipyn.” Canys yr oedd y rhai oedd yn mynd ac yn dyfod yn llawer, ac ni chaent egwyl hyd yn oed i fwyta.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu'n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthynt, "Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn." Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o'r neilldu i le anghyfanedd, a gorphwyswch encyd; canys llawer oedd y rhai oedd yn dyfod ac yn myned, ac nid oedd iddynt gyfleustra i fwyta.