Mark 6:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr gweled o’r werin wy yn myned ymaith a’ bot llawer yn y adnabot ef, ac yn rhedec ar draet yd yno o’r oll ddimasoydd, ac y rhacvlaenesont wy yno, ac a ymgasclasont, ataw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelid hwynt yn cilio, ac Ei adnabod Ef a fu gan laweroedd; ac o’r holl ddinasoedd y rhedasant yno ar draed, a rhagflaenasant hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelwyd hwynt yn myned, ac adnabu llawer hwynt; ac ar eu traed o’r holl ddinasoedd y rhedasant ynghyd yno, a chael y blaen arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd llawer o bobl wedi eu gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'u gwelsant hwy yn ymadael, a llawer a'u hadnabuant, ac a gyd‐redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'i rhagflaenasant ef.