Mark 6:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth yr Iesu allan, ac a welawdd dyrva vawr, ac a dosturiawdd wrthwynt, can y bot wy val deuaidd eb yddyn vugail: ac a ddechreawdd ddyscy iddyn laweroedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan, gwelodd Efe dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt, canys yr oeddynt fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ddyfod allan gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddyfod allan, efe a welodd dyrfa fawr, ac a lanwyd â thosturi tuag atynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.