Mark 6:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yntef a atepoð ac addyvot wrthwynt, Rowch chwi yddynt beth y’w vwyta. Ac wy a ðywedesont wrthaw, A awn ni a’ phryny dau‐cant ceiniogwerth o vara, a’ ei roi yðyn yw ywyta?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’ w fwytta. A dywedasant Wrtho, Wedi myned ymaith, a brynwn ni werth deucan denar o fara, a’i roddi iddynt i’w fwytta?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Ac meddant wrtho, “A awn ni i brynu gwerth dau can swllt o fara, a’i roi iddynt i’w fwyta?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau hwy, "Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt." Meddent wrtho, "A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth dau can denarion o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta?