Mark 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrthynt, Nyd yw Prophwyt yn ddianrydedd any’d yn ei wlad y un, ac ym‐plith y genedl y vn, ac yn y duy h un.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd oddieithr yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai’r Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin, ac ymhlith ei geraint, ac yn ei gartref.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu — gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywed wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, a chyda'i dylwyth ei hun, ac yn ei deulu ei hun.