Mark 6:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gymerawdd y pemp torth, a’r ddau pysco dyn, ac a edrychawdd y vyn dd ir nefo edd, ac a ðiolchawdd, ac a dorawdd y bara, ac a ei rhoes at ei ddiscipulon, yw gesot geyr y bron wy, a’r ðau pysco dyn a ranawdd ef yn y plith wy oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau: a rhoddodd i’r disgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau hwynt: ac y ddau bysgodyn a rannodd Efe rhyngddynt oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth ef y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau, a rhoddai hwynt i’r disgyblion i’w gosod o’u blaen hwynt; a’r ddau bysgodyn a rannodd ef rhwng pawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny tua'r Nef, efe a fendithiodd, ac a dorodd y torthau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion, i'w gosod ger eu bron hwynt: a'r ddau bysgodyn a ranodd efe rhyngddynt oll.