Mark 6:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man y parawdd ef yw ddiscipulon vyn e d ir llong, a ’rhacvlaeny trosawdd ir ’lan arall h yd Bethsaida, tra dd anvonei ef y werin ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn y cymhellodd Efe Ei ddisgyblion i fyned i’r cwch, a myned o’r blaen i’r lan arall, i Bethtsaida, tra fyddai Efe yn gollwng ymaith y dyrfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna parodd i’w ddisgyblion fynd i’r llong, a mynd ymlaen i’r ochr arall tua Bethsaida, tra gollyngai ef y dyrfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd efe a gymhellodd ei Ddysgyblion i fyned i'r cwch, a myned o'i flaen yn groes i Bethsaida, tra y mae efe yn gollwng ymaith y dyrfa.