Mark 6:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei gwelawð yn dra vaelus arnyn wrth rwyfo, (can vot y gwynt yn wrthwynep yðynt) ac yn‐cylch y bedwared wylfa o ’r nos, y daeth ef atwynt, yn gorymddaith ar y mor, ac ef a vynesei vyn e d eb y llaw hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan eu gweled hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos daeth attynt, dan rodio ar y môr, ac ewyllysiai fyned heibio iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth eu gweled hwynt mewn helbul yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, tua’r bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaw atynt dan gerdded ar y môr; ac arofunai fyned heibio iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai'n mynd heibio iddyn nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y mr. Yr oedd am fynd heibio iddynt;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wrth eu gweled hwynt yn drallodus yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos y mae efe yn dyfod atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.