Mark 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny allei ef yno wneythy ’r neb vn nerth yn amyn gesot ei ddwylo ar y chydic gleifion a’ ei h iachay.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yno ni allai wneuthur dim gwyrthiau, oddieithr gan roi Ei ddwylaw ar ychydig gleifion, eu hiachau hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni allai yno wneuthur dim grymuster ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'u hiacháu hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a'u hiachu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni allai efe yno wneuthur dim gweithred nerthol, ond gosod ei ddwylaw ar ychydig gleifion, a'u hiachau hwynt.