Mark 6:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys wy oll y gwelsont ef, ac a dechrenesont: an’ d ar y chwaen yr ymddiddanodd ac wynt, ac y dyvot wrthint, Cyssiriwch, myvi yw, nac ofnwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe yn uniawn a lefarodd â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Byddwch hyderus, Myfi yw: Nac ofnwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys pawb a’i gwelodd, a chyffröwyd hwynt. Yntau yn y fan a ymddiddanodd â hwynt; ac medd ef wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau hwy ar unwaith a dweud wrthynt, "Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd efe a ymddiddanodd â hwynt, ac a ddywed wrthynt, Ymgalonogwch: Myfi yw; nac ofnwch.