Mark 6:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr escen d odd ef atwynt ir llong, ac y peidiawdd y gwynt, ac aruthrol dros ben yr aeithei braw ynthynt y vnain, a ryveddy a orugant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac esgynodd attynt i’r cwch; a thawelodd y gwynt; ac yn ddirfawr y synnasant ynddynt eu hunain, canys ni ddeallent am y torthau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth i fyny atynt i’r llong; a gostegodd y gwynt. A mawr dros ben y synnent ynddynt eu hunain;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i fyny atynt i'r llong; a'r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth i fyny atynt i'r cwch; a pheidiodd y gwynt. A hwy a synasant yn ddirfawr ynddynt eu hunain;