Mark 6:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ dyvot trosawdd a wnaethant, a myned i dir Genezaret, a’ dyvot ir ’lan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned trosodd o honynt, daethant i dir, i Gennesaret, ac angorasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi croesi hyd at y tir deuthant i Gennesaret, ac angorasant wrth y lan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt groesi trosodd at y tir, hwy a ddaethant i Gennesaret, ac a angorasant wrth y làn.