Mark 6:55 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a gylch redesant trwy ’r oll vro hono o y amgylch ogylch, ac a ddechreysont ddwyn hwnt ac yma mewn glythae y sawl oll, oedd yn gleifion, ir lle clywent y vot ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn uniawn, gan Ei adnabod Ef, y rhedasant o amgylch yr holl oror hwnw, a dechreuasant ddwyn oddi amgylch, ar eu gorwedd-bethau, y rhai drwg eu hwyl, i ba le y clywent Ei fod Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhedasant o amgylch trwy’r holl fro honno, a dechreuasant gludo’r cleifion o gwmpas ar eu gwelyau, pa le bynnag y clywent ei fod ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo'r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a redasant o amgylch yr holl wlad hono, ac ddechreuasant ddwyn oddiamgylch ar eu gwelyau y rhai cleifion, pa le bynag y clywent ei fod ef.