Mark 6:56 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y b’le bynac yð elei ef y mewn i drefi nei ddinasoedd, ai i bentrefi, wy ddodent ei cleifion yn yr heolydd, ac ei gweddient ar gael o hanynt gyhwrdd ys haychen y wisc ef. A’ chyniuer a ei cy v yrddawdd, a iachawyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i ba le bynnag yr elai Efe i mewn, i bentrefi, neu ddinas, neu wlad, yn y marchnadoedd y gosodent y cleifion, ac attolygent Iddo am gyffwrdd o honynt ag hyd yn oed ymyl Ei gochl Ef: a chynnifer ag a gyffyrddasant ag Ef a iachawyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A pha le bynnag y cyrchai, — i’r pentrefydd, neu i’r dinasoedd, neu i’r wlad, — gosodent y rhai methedig yn y marchnadleoedd, ac erfynient arno am iddynt gael cyffwrdd pe na bai ond ag ymyl ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd ag ef a iacheid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phle bynnag y byddai'n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i'r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac i ba le bynag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu i leoedd gwledig, hwy a osodent y cleifion yn y marchnad‐leoedd, ac a atolygent iddo gael o honynt gyffwrdd ond âg ymyl ei fantell ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.