Mark 6:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ’orchymynawdd yðwynt, na chymerent dim y’w h ymddeith amyn ffon yn vnic: na’c y screpan, na bara, nac efydd yn ei gwregysae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gorchymynodd iddynt na chymmerent ddim i’ r daith oddieithr ffon yn unig, ddim bara, ddim ysgrepan, ddim arian yn eu gwregys;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gorchmynnodd iddynt na chymerent ddim ar gyfer taith ond ffon yn unig, na bara, na chod, na phres yn y gwregys,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i'r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi — dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gorchmynnodd iddynt beidio chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a orchymynodd iddynt na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw‐ffon yn unig; na bara, nac ysgrepan, nac arian yn eu llogell,