Mark 7:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Moysen a ddyvot, Anrydedda dy dad a’th vam: a’ Phwy pynac a velltithia dad nei vam, bid varw o’r varwoleth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys Mosheh a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam,” ac, “Yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam, â marwolaeth bydded iddo farw.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac A felltithio dad neu fam bydded farw’n gelain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw'r farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dywedodd Moses, 'Anrhydedda dy dad a'th fam', a, 'Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Ac, Yr hwn a ddifenwo dâd neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth.