Mark 7:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi ddywedwch, A’ s dywait vn dyn wrth dad nei vam, Corban, ys ef yw hyny, Trwy ’r rhoð a offrymir genyfi, y daw lles yty, rhydd vydd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond chwychwi a ddywedwch, Os dywaid dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban (yr hwn yw Rhodd) yw pa beth bynnag y buasai i ti gael lles trwyddo oddiwrthyf,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond chwi a ddywedwch, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam ‘Corbân, sef Offrwm, yw hynny o fudd a gawsit gennyf fi,’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr ydych chwi'n dweud, 'Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, "Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi",'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond meddwch chwi, Os dywed dyn wrth ei dâd neu ei fam, Corban (hyny yw, Rhodd sanctaidd) ydyw pa beth bynag o'r eiddof fi a fyddai o les i ti,