Mark 7:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid oes dim allan o ddyn, a ddychon y halogy ef, pan el oei vewn: eithyr y pethae a ddaw allan o hanaw, yw’r ei a halogant ddyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes dim gan fyned o’r tu allan i ddyn i’r tu mewn iddo, a all ei halogi ef; eithr y pethau sy’n dyfod allan yw’r rhai sy’n halogi’r dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes dim oddi allan i’r dyn yn mynd i mewn iddo a ddichon ei halogi; eithr y pethau sy’n dyfod allan o’r dyn yw’r pethau sy’n halogi’r dyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw'r pethau sydd yn halogi dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy beth dych chi'n ei fwyta ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛. Beth sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛ — pethau dych chi'n eu dweud a'u gwneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid oes dim o'r tu allan i'r dyn, yr hwn pan yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o'r dyn yw y pethau sydd yn halogi y dyn.