Mark 7:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can na d yw yn myn e d o vewn ei galon, yn amyn ir bol y, ac yn myn e d allan i’r gauduy yr hwn yw carthiat yr oll vwydydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
na all efe ei halogi ef, gan nad yw yn myned i mewn i’r galon, eithr i’r bol, ac i’r geudy y mae yn myned allan; gan lanhau o hono yr holl fwydydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am nad â i mewn i’w galon ef, ond i’w gylla, ac allan i’r geudy?” — gan gyhoeddi’n lân bob bwydydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu'r holl fwydydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?" Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn ln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol, ac yn myned allan i'r geudy? Hyn a ddywedodd efe gan buro yr holl fwydydd.