Mark 7:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwreic, yr hon oedd ei merch‐vach ac iddi yspryt aflan, a glypu son am danaw ac a ddaeth ac a gwympodd wrth y draed ef
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni allai fod yn guddiedig; eithr yn uniawn, wedi clywed am Dano gan wraig, merch fechan yr hon oedd ag yspryd aflan ynddi, wedi dyfod o honi syrthiodd wrth Ei draed Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr yn ebrwydd clywodd gwraig amdano, a chan ei merch fach ysbryd aflan; a hi ddaeth, a syrthiodd wrth ei draed;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen — roedd ganddi ferch fach oedd wedi ei meddiannu gan ysbryd drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan glybu gwraig am dano, yr hon oedd ei merch fechan âg yspryd aflan ynddi, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.