Mark 7:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepodd hi ac y dyuot wrthaw, Diau, Arglwydd: eto eisioes e vwyta ’r cynavon y dan y vord o vriwson y plant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hithau a attebodd ac a ddywedodd Wrtho, Felly, Arglwydd; ac y cenawon cwn, tan y bwrdd, a fwyttant o friwsion y plant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd hithau, ac medd wrtho, “Ië, Syr; ac eto y mae’r corgwn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae'r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd hithau ef, "Syr, y mae hyd yn oed y cu373?n o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hithau a atebodd, ac a ddywed wrtho, Gwir, O Arglwydd, y mae hyd y nod y cwn bychain dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant bychain.