Mark 7:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddaw ei gymeryt ef or neilltu allan o’r tyrfa, ef a estennawdd ey vyssedd yn ei glustiae, ac a boyrawdd, ac a gyfyrddawð a ei davot ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei gymmeryd ef allan o’r dyrfa, o’r neilldu, rhoddodd Ei fysedd yn ei glustiau ef; ac, wedi poeri o Hono, cyffyrddodd â’i dafod ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo fynd ag ef oddiwrth y dyrfa ar ei ben ei hun, fe roes ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi poeri fe gyffyrddodd â’i dafod ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ei gymryd ef o'r neilltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â'i dafod ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Iesu a'r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau'r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd 'i dafod;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'i cymmerodd ef ymaith oddiwrth y dyrfa o'r neilldu, ac a roddodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac efe a boerodd, ac a gyffyrddodd â'i dafod ef.