Mark 7:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man ydd ymagorawdd ey glustiae, ac ydd ymellyngawdd rhwym ei davot, ac ef a ddyvot yn eglur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrtho, Ethpatach, yr hyn yw, Agorer di: ac agorwyd ei glustiau ef, gollyngwyd rhwym ei dafod, a llefarodd efe yn iawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac agorwyd ei glustiau ef, ac yn y fan datodwyd rhwym ei dafod, a llefarai’n groyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd, ac efe a lefarodd yn hyglyw.