Mark 7:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ’orchymynawdd yddwynt, na ddywedynt i nep: an’d pa vwyaf y goharddei yðwynt, mwy o lawer y manegynt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gorchymynodd Efe iddynt na ddywedent wrth neb; ond po mwyaf y gorchymynodd Efe iddynt, mwy dros ben y cyhoeddasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gorchmynnodd iddynt na ddywedent wrth neb; ond pa faint bynnag a orchmynnai ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddent hwythau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw am beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Ond po fwya oedd Iesu'n dweud wrth bobl i beidio, mwya oedden nhw'n dweud wrth bawb am y pethau roedd yn eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gorchmynnodd iddynt beidio dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy'n cyhoeddi'r peth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb; ond po fwyaf y gorchymynodd efe iddynt, mwyaf i gyd o lawer y cyhoeddasant hwy eu hunain y peth.