Mark 7:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ brawychy eb weð a wnaethant, can ðoedyt Tec y gwnaeth ef pop peth: ir byddair y gwna ef glywet, ac ir mution ddywedyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd, Da y gwnaeth Efe bob peth; a gwneud y mae i’r byddariaid glywed ac i’r mudion lefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mwy na mwy y synnent, gan ddywedyd, “Gwych y gwnaeth ef bopeth; fe wna hyd yn oed i’r byddariaid glywed, ac i fudion lefaru.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddariaid glywed, ac i'r mudion ddywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo. “Mae popeth mae'n ei wneud mor ffantastig,” medden nhw. “Mae hyd yn oed yn gwneud i bobl fyddar glywed ac i bobl fud siarad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn synnu'n fawr dros ben, gan ddweud, "Da y gwnaeth ef bob peth; y mae'n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a darawyd â syndod enfawr, gan ddywedyd, Y mae efe wedi gwneyd pob peth yn dda: y mae efe yn gwneuthur hyd y nod i'r byddariaid glywed, a mudaniaid lefaru.