Mark 7:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddelont o’r varchnat, o ddyethyr yðyn ymolchy, ny vwytant: a’ llawer o bethae eraill ynt, a’r a gymersant vvy arnynt ei cadw, vegis golchi adae cwpanae, ac ysteni, ac evyddenneu a’ byrddae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddal traddodiad yr hynafiaid: a phan o’r farchnad y deuant, onid ymolchant ni fwyttant; a llawer peth arall sydd a gymmerasant i’w cadw, golchiad cwppanau ac ystenau ac efyddynau;)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dim o’r farchnad heb iddynt ei daenellu nis bwytânt; a llawer o bethau eraill y sydd, a dderbyniasant i’w dal, golchi cwpanau a godardau a llestri pres, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddelont o'r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i'w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnân nhw ddim bwyta dim wedi ei brynu yn y farchnad chwaith heb fynd trwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ni fyddant byth yn bwyta, ar l dod o'r farchnad, heb ymolchi; ac y mae llawer o bethau eraill a etifeddwyd ganddynt i'w cadw, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddelont o'r farchnadle, oni fydd iddynt ymdrochi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a dderbyniasant i'w cadw, bedyddiadau cwpanau, ac ystenau, a llestri copr.