Mark 7:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y govynodd y Pharisaieit a’r Gwyr‐llen iddaw, Paam na rodia dy ddiscipulon di h erwydd athraweth yr Henaif ieit, any d bwyta bwyt a dwylo eb olchi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gofynodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion Iddo, Paham nad yw Dy ddisgyblion yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond â dwylaw cyffredin y bwyttant eu bara?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe ofyn y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, “Paham na rodia dy ddisgyblion di yn ol traddodiad yr hynafiaid, yn lle bwyta’u bara â dwylo cyffredin?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith i Iesu, “Pam dydy dy ddisgyblion di ddim yn cadw'r traddodiad. Maen nhw'n bwyta heb olchi eu dwylo!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, "Pam nad yw dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta'u bwyd dwylo halogedig?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a ofynasant iddo, Paham nad yw dy Ddysgyblion di yn rhodio yn ol Traddodiad yr Henuriaid, ond â dwylaw halogedig y maent yn bwyta bara?