Mark 7:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atebei ac y dywedei ynt ef wrthynt, Can ys da y propwytawdd Esaias am dano‐chwi hypocritae, vegis yð escrivenir, Y popl hyn am anrydedda i aei gwefusae, a’ ei calon ’sy pell hwnt o dd ywrthyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Eshaiah am danoch chwi y rhagrithwyr, fel yr ysgrifenwyd, “Y bobl hyn, â’u gwefusau yr anrhydeddant Fi, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Gwych y proffwydodd Esaias amdanoch chwi’r rhagrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig, Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi. Dych chi mor ddauwynebog! “Dyma ddwedodd e: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae'n ysgrifenedig: 'Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu 'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaiah am danoch, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig: — Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu a'r gwefusau, Ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;