Mark 7:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit ydd ych yn rhoi gorchymyn Duw heibio, ac yn cadw athraweth dynion, vegis golchi adae ysteni a’ chwpanae, a’ llawer o gyffelyp bethae ydd ych yn ei ’wneythyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan adael heibio orchymyn Duw, dal yr ydych draddodiad dynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gollwng yr ydych orchymyn Duw, a dal traddodiad dynion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi ei orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan ollwng ymaith orchymyn Duw, yr ydych yn dal gafael ar Draddodiad dynion.