Mark 7:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthynt, Ys da iavvn, y gomeðwch chwi ’orchymyn Duw, val y catwoch eich athraweth eich un ain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Gwych y diystyrwch orchymyn Duw, fel mai eich traddodiad a gadwoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrthynt, “Gwych y gwrthodwch orchymyn Duw fel y cadwoch eich traddodiad chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai hefyd wrthynt, "Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych y gwnewch i ffwrdd â gorchymyn Duw, fel y dyogeloch eich Traddodiad eich hunain.