Mark 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr vcheneiddioð ef yn ddwys: yn ei yspryt, ac y dyuot. Pa geisio arwydd y mae’r genedleeh hon? Yn wir y dywedaf y chwi, na’s rhoddir arwyð ir genedlaeth hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ocheneidio yn Ei yspryd, dywedodd, Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ocheneidio yn ei ysbryd, fe ddywed “Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, meddaf i chwi, ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna'r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genhedlaeth yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. "Pam," meddai, "y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ocheneidiodd yn ei yspryd, ac a ddywed, Paham y mae y genedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genedlaeth hon.