Mark 8:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y gadawodd wy, ac aeth i’r llong drachefyn, ac a dynnodd ymaith dros y dw f r.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir y dywedaf wrthych, Ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd. Ac wedi eu gadael, gan fyned trachefn i’r cwch, aeth ymaith i’r lan arall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gadawodd hwynt, ac wedi mynd drachefn i’r llong, aeth ymaith i’r ochr arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i'r lan arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth drachefn [i'r cwch], ac a ymadawodd i'r lan arall.