Mark 8:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac anghofi o a wnaethent gym e ryd bara, ac nid oedd ganthwynt amyn vn dorth yn y llong.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac anghofiasant gymmeryd torthau, ac nid oedd ganddynt oddieithr un dorth ynghyda hwynt yn y cwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac anghofiasent gymryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y llong.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent wedi anghofio dod bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a anghofiasant gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y cwch.